-
Wyt ti’n gwrando?
Rwyf eisoes wedi sôn am leisiau —pa mor anodd yw torri drwy’r môr o sŵn.Ond mae’n rhaid imi ofyn eto:Wyt ti’n gwrando? Wyt ti’n gwrando ar dy wraig, dy ŵr,dy bartner, dy blant? Wnest ti wrando ar dy rieni?Dy neiniau, dy deidiau?Dy ewythrod, dy fodrybedd? Wyt ti’n gwrando ar dy gydweithwyr,dy ffrindiau, dy fyfyrwyr? Rwy’n gwrando. Dyna fy ngwaith —gwrando.Rhywun i ddibynnu arno,i rannu chwerthin,i glywed dy stori. Ond gad inni droi’r drol am ennyd. Wyt ti’n gwrando arna i? Rwyt ti’n gwrando nawr,yn darllen hyn,yn dilyn y geiriau. Ond wyt ti wir yn talu sylw? Nid yw’r byd yn mynnu gwrandawyr.Rydyn ni oll yn gaeth yn ein swigod bach.A’r…


